Hafan> Ynglyn â Ni
Mae gan thebigword gyfoeth o brofiad o ran cefnogi pobl i gyfathrebu mewn unrhyw iaith ar draws y Sector Cyhoeddus ac eisoes mae'n darparu gwasanaethau iaith i filoedd o bobl yn y DWP, Y Swyddfa Gartref, MoD, Llu Ffiniau'r DU, GIG a CThEM.
Rydym wedi recriwtio miloedd o ieithyddion profiadol gyda'r sgiliau, cymwysterau a chliriadau diogelwch sydd arnoch eu hangen i gyfathrebu ar unwaith a heb ymdrech mewn unrhyw iaith. Hefyd mae gennym dîm arbenigol a fydd yn gallu'ch cefnogi gyda'ch holl anghenion iaith.
Rydym wedi datblygu amrediad o atebion technoleg newydd ar gyfer Y Weinyddiaeth Gyfiawnder er mwyn darparu gwasanaeth syml, cyflym ac effeithiol a fydd yn canfod y cymorth sydd arnoch ei angen fel mater o drefn.
Mae gan thebigword swyddfeydd ledled y byd, 7,500 o gleientiaid, mae'n cyflogi 500 o staff a mae ganddo fwy na 40,000 o ieithyddion. Gallwn ni eich cysylltu â'r cyfieithydd ar y pryd priodol mewn mwy na 250 o ieithoedd mewn llai na 30 eiliad. Rydym yn trafod 1,000,000 o funudau o gyfieithu ar y pryd ar y ffôn bob mis, 17,000 o gyfarfodydd wyneb yn wyneb a hanner biliwn o eiriau o gyfieithu. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch thebigword, ewch iwww.thebigword.com