Hafan>Gwybodaeth Ddefnyddiol

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Cyrchu amrediad o ganllawiau i'ch helpu i nodi termau cyffredin a ddefnyddir ar draws Y Weinyddiaeth Gyfiawnder; gweld yr amrediad llawn o ieithoedd sydd ar gael a deall y cod ymddygiad a'r gweithdrefnau cydymffurfio.

Dynodydd Iaith

Bydd yr offeryn arloesol hwn yn eich helpu i nodi'r iaith sydd arnoch ei hangen. Mae ond angen nodi enw gwlad a bydd y system yn canfod yr iaith sydd arnoch ei hangen i gyfathrebu. Hefyd gellir ei defnyddio i ganfod ieithoedd amgen os oes angen.

Iaith:

Iaith/ieithoedd amgen:

Gwlad:

Cod Deialu:

Cod Iaith:

Chwiliad Gwlad:

Prif Ieithoedd:

Geirfa

Bydd yr offeryn arloesol hwn yn eich helpu i nodi'r iaith sydd arnoch ei hangen. Mae ond angen nodi enw gwlad a bydd y system yn canfod yr iaith sydd arnoch ei hangen i gyfathrebu. Hefyd gellir ei defnyddio i ganfod ieithoedd amgen os oes angen.

Disgrifiadau o ganlyniadau ceisiadau a drafodwyd

Wedi'i gyflawni

Fe wnaeth y cyflenwr (Applied Language Solutions) ddarparu cyfieithydd ar y pryd neu gyfieithydd fel y gofynnwyd amdano gan y llys neu dribiwnlys.

Heb ei gyflawni gan y cyflenwr

Nid oedd y cyflenwr (Applied Language Solutions) yn gallu llenwi'r cais i archebu.

Wedi'i ganslo gan y cwsmer

Bellach nid yw'r cwsmer (h.y. y llys neu'r tribiwnlys) angen cyfieithydd ar y pryd ac wedi canslo'r cais i archebu.

Ni wnaeth y cwsmer fynychu

Fe wnaeth y cyfieithydd ar y pryd gyrraedd y lleoliad y gofynnwyd amdano ar gyfer y gwasanaeth (fel y'i nodwyd gan y llys neu'r tribiwnlys) ond ni wnaeth y cwsmer fynychu.

Ni wnaeth y cyflenwr fynychu

Cafodd y cyfieithydd ar y pryd ei neilltuo a'i archebu gan y cyflenwr (Applied Language Solutions), ond ni wnaeth fynychu.

Cyfradd llwyddo

Amcangyfrifir hon fel y nifer o geisiadau wedi'u cwblhau sy'n cyfrif fel cyflenwad llwyddiannus o'r gwasanaeth:

h.y. "Wedi'i Gyflawni" ac "Ni wnaeth y cwsmer fynychu", wedi'i rannu gan gyfanswm y ceisiadau perthnasol am wasanaeth iaith a gwblhawyd ac eithrio'r ceisiadau hynny a ganslwyd gan y cwsmer.

Categorïau'r person sy'n gwneud cais

Troseddol

Mae'n cynnwys ceisiadau'n perthyn i achosion troseddol mewn Llysoedd Ynadon a Llysoedd y Goron, y Llys Troseddol Canolog, apeliadau troseddol yn y Llysoedd Brenhinol Cyfiawnder, Canolfan Cyfiawnder Gogledd Lerpwl, Canolfan Cyfiawnder Swydd Warwig a Chanolfan Casglu a Chydymffurfio Llundain HMCTS.

Tribiwnlysoedd

Mae'n cynnwys ceisiadau a wneir gan yr holl dribiwnlysoedd Cyflogaeth, tribiwnlysoedd Mewnfudo a Lloches, tribiwnlysoedd Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant a thribiwnlysoedd Arbennig.

Sifil a Theulu

Mae'n cynnwys ceisiadau a wneir gan yr holl lysoedd sifil, teulu a sirol, Canolfannau Cyfiawnder Sifil a Theulu, Canolfannau Gwrandawiad Sifil a Theulu, Llysoedd Barn Huntingdon, y Llys Gweinyddol yn y Llysoedd Brenhinol Cyfiawnder, apeliadau sifil yn y Llysoedd Brenhinol Cyfiawnder, Y Llys Gwarchod, a Llys Gweinyddol Cymru.

Arall

Mae'n cynnwys ceisiadau a wneir gan garchardai, Gwasanaethau a Rennir MoJ a thimau polisi o fewn MoJ a Phencadlys NOMS.

Categorïau cwynion

Ni wnaeth y cyfieithydd ar y pryd fynychu

Ni wnaeth y cyfieithydd ar y pryd a neilltüwyd fynd i'r apwyntiad ac ni wnaeth hysbysu unrhyw un.

Safon cyfieithydd ar y pryd

Mae safon y sgiliau cyfieithu ar y pryd yn cael ei hamau.

Roedd y cyfieithydd ar y pryd yn hwyr

Roedd y cyfieithydd ar y pryd a neilltuwyd yn hwyr wrth gyrraedd yr apwyntiad.

Dim cyfieithydd ar y pryd ar gael

Nid oedd y cyflenwr yn gallu darparu dehonglwr.

Problem weithredol

Mae problemau gweithredol yn cynnwys: neilltuo haen anghywir (mae'r cwsmer wedi gofyn am haen benodol o apwyntiad a neilltuwyd dehonglwr ar haen anghywir), problemau gyda'r porth ceisiadau seiliedig ar y we, achlysuron pan nad oedd y cwsmer yn gallu gwneud cais am un o'r gwasanaethau mae'r cyflenwr yn eu cyflenwi ac achlysuron eraill pan nad yw'r cyflenwr wedi cyflenwi'r gwasanaeth a ddisgwylir.

Problem arall gyda'r cyfieithydd ar y pryd

Unrhyw feysydd ynghylch y cyfieithydd ar y pryd nas cwmpasir rywle arall, e.e. cod gwisg.

Gwall gyda'r ddalen amser

Mae naill ai'r cwsmer neu'r cyfieithydd ar y pryd wedi cau cofnod dalen amser yr apwyntiad yn anghywir.

Archeb

Mae hyn yn cynnwys cwynion lle na chofnodwyd categori yn y data.

Cod Mynediad

Cyhoeddir cod mynediad i bob aelod o staff Y Weinyddiaeth Gyfiawnder i'w ddefnyddio wrth ddefnyddio gwasanaethau cyfieithu ar y pryd ar y Ffôn. Bydd angen y cod unigryw hwn yn ystod y broses awtomatig o gysylltu â chyfieithydd ar y pryd.

Math o apwyntiad

Nodwyd pob apwyntiad posibl gan Y Weinyddiaeth Gyfiawnder a gofynnir ichi ddewis y math perthnasol o apwyntiad wrth gwblhau'r Ffurflen Archebu.

Dangosfwrdd

Botwm dewislen ar borth Y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy'n darparu gwybodaeth ynghylch yr holl archebion cyfieithwyr ar y pryd sy'n weithredol.

Darn Llaw Deuol

Ail Ddarn Llaw ffôn y gellir ei gysylltu â'ch ffôn, gan ganiatáu i chi a rhywun nad yw'n siarad Saesneg gyfathrebu gyda chyfieithydd ar y pryd ar yr un pryd. Gall thebigword ddarparu darn llaw deuol; e-bostiwch MOJInterpreting@thebigword.com i archebu darn llaw deuol - ac mae'r rhain ond yn plygio i mewn i'ch soced ffôn presennol ar yr uned waelodol, gan ganiatáu i chi ddefnyddio darnau llaw a chyfathrebu ar yr un pryd. Hefyd mae'r uned yn cynnwys botymau distewi ar gyfer y ddau ddarn llaw er mwyn sicrhau bod y sgwrs yn breifat os oes angen.

Cyfieithu ar y pryd Wyneb yn Wyneb

Sesiwn lle mae cyfieithydd ar y pryd yn mynychu'ch lleoliad ac yn darparu cymorth iaith yn bersonol, gan gyfieithu ar y pryd yr hyn rydych chi a'r person nad yw'n siarad Saesneg rydych yn cyfathrebu ag ef yn ei ddweud.

Desg Gymorth

Mae gan thebigword dîm penodedig o arbenigwyr ar Ddesg Gymorth i'ch helpu i orchfygu unrhyw broblemau ac ateb unrhyw gwestiynau. Gellir cysylltu â'r Ddesg Gymorth ar 03333 445 701 neu drwy e-bost ar MOJInterpreting@thebigword.com

Bathodyn ID

Rhoddir bathodyn adnabod personol i bob cyfieithydd ar y pryd Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy'n cynnwys delwedd o'r cyfieithydd ar y pryd a'r holl wybodaeth berthnasol am y gwaith maent wedi'u clirio i'w gwblhau.

Cleient Uniongyrchol IMS

Cleient Uniongyrchol IMS yw porth ar-lein thebigword’s ar gyfer cyrchu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd. Mae'n gyflym, syml ac ar gael 24/7/365 i wneud archebion neu gyrchu adroddiadau ar dueddiadau a gwariant. Mae'n blatfform diogel, yn amddiffyn eich holl fanylion, ac yn cynnig gweledigrwydd a rheolaeth gyflawn dros eich archebion cyfieithydd ar y pryd.

Hefyd mae'n caniatáu ichi weld yr holl archebion a gweld calendr i wirio apwyntiadau'r dyfodol. Gellir cyrchu Cleient Uniongyrchol IMS trwy borth penodedig Y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar thebigword.ims.direct/client

Llinell Ffôn Awtomatig

Mae'n caniatáu i gyfieithwyr ar y pryd a chleientiaid pen y daith ddilysu dalennau amser ar ddiwedd apwyntiadau cyfieithu ar y pryd wyneb yn wyneb. Ffoniwch 0800 757 3476 a dilynwch y cyfarwyddiadau. Bydd arnoch angen eich PIN unigryw i gwblhau'r broses.

Cod Iaith

Mae gan bob iaith sydd ar gael trwy Ddehongli ar y Ffôn God Iaith neu PIN unigryw. Bydd angen ichi ddefnyddio'r cod hwn i gyrchu'r iaith sydd arnoch ei hangen.

Dynodwyr Iaith

Os na allwch ddynodi'r iaith mae arnoch angen cymorth â hi, mae gan thebigword dîm arbenigol o ddynodwyr iaith a fydd yn ei wneud drosoch. Gellir cysylltu â hwy trwy ffonio Dehongli ar y Ffôn ar 03333 445 702 ac yna'n deialu 700#.

Cymhwysiad Ffôn

Cymhwysiad ffôn ar gyfer ieithyddion Y Weinyddiaeth Gyfiawnder a ddarperir gan thebigword sy'n caniatáu i gyfieithwyr ar y pryd a chleientiaid ddilysu dalennau amser ar ddiwedd apwyntiadau cyfieithu ar y pryd wyneb yn wyneb.

Porth Y Weinyddiaeth Gyfiawnder

Microwefan benodedig ar-lein at ddefnydd unigryw staff Y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae'r wefan hon yn darparu'r holl wybodaeth ac adnoddau sydd arnoch eu hangen ac yn caniatáu ichi archebu cyfieithwyr ar y pryd, cyflwyno cyfieithiadau a hefyd gysylltu â thebigword i gael cymorth.

Trefniant Sawl Diwrnod

Mae'r opsiwn Trefniant Sawl Diwrnod ar gael ar y Ffurflen Archebu ac fe'i defnyddir os oes arnoch angen cyfieithydd ar y pryd am fwy nag un diwrnod, i fynychu rhywbeth fel treial er enghraifft. Os oes angen, ticiwch yr opsiwn Trefniant Sawl Diwrnod. Bydd hyn yn agor maes newydd i'ch galluogi i wneud archeb dros nifer benodol o ddiwrnodau.

Rhywun Nad yw'n Siarad Saesneg

Rhywun â sgiliau Saesneg cyfyng y bydd arno angen cymorth cyfieithydd ar y pryd i gyfathrebu'n effeithiol ag unrhyw un yn gweithio i'r Weinyddiaetyh Gyfiawnder.

Hysbysiadau

Botwm dewislen ar borth Cleient Uniongyrchol IMS a fydd yn darparu diweddariadau allweddol i bob defnyddiwr, gan ofyn am gymeradwyaeth o dalennau amser a gyflwynwyd heb ichi eu dilysu wedi i ieithyddion gwblhau eu hapwyntiadau.

Safonol, Cymhleth a Chymhleth Ysgrifenedig

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi gweithredu system newydd i ddosbarthu archebion ar gyfer ieithyddion cymwys yn darparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd a chyfieithu. O dan y system newydd, caiff ieithyddion eu talu yn ôl y math o archeb maent yn cael eu neilltuo iddi - Safonol, Cymhleth a Chymhleth Ysgrifenedig.

Cod Ieithydd

Mae gan bob cyfieithydd ar y pryd God Cyflenwr. Cadwch gyfeirnod o'r cod cyflenwr rhag ofn y bydd angen ichi ddarparu adborth neu y byddwch am weithio gyda'r cyfieithydd ar y pryd eto.

Iaith Darged

Yr iaith mae arnoch angen i'r cyfieithydd ar y pryd allu cyfathrebu ynddi er mwyn cefnogi'r person nad yw'n siarad Saesneg.

Dehongli dros y Ffôn

Mynediad di-oed i ieithyddion arbenigol dros y ffôn a fydd yn darparu cymorth iaith, gan gyfieithu ar y pryd yr hyn sy'n cael ei ddweud rhyngoch chi a'r person nad yw'n siarad Saesneg rydych yn cyfathrebu ag ef.

Dalen amser

Mae pob cyfieithydd ar y pryd sy'n mynychu apwyntiad cyfieithu ar y pryd wyneb yn wyneb yn derbyn dalen amser. Hefyd mae'r defnyddiwr terfynol yn derbyn copi o'r ddalen amser er mwyn cadarnhau'r archeb a chael yr holl wybodaeth mae arnynt ei hangen ynghylch y cyfieithydd ar y pryd. Rhaid i'r ddalen amser gael ei dilysu gan y cleient terfynol a'r cyfieithydd ar y pryd fel ei gilydd ar ddiwedd yr apwyntiad.

PIN unigryw

Bydd pob aelod o staff Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cael PIN unigryw i'w ddefnyddio wrth ddefnyddio gwasanaethau cyfieithu ar y pryd wyneb yn wyneb. Bydd angen y cod unigryw hwn i ddilysu dalennau amser cyfieithwyr ar y pryd a chwblhau'r archeb. Os nad oes gennych PIN unigryw, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth ar 03333 445 701 neu drwy e-bost ar MOJInterpreting@thebigword.com

Cyfieithu ar y pryd o Bell dros Fideo

Gwasanaeth unigryw sydd ar gael dim ond mewn llysoedd dethol sy'n cynnig cyfleusterau fideogynadledda. Yn y gwasanaeth hwn, bydd cyfieithydd ar y pryd yn mynychu llys sy'n agos i'w lleoliad sy'n cynnig cyfleusterau fideogynadledda ac yna darparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd i lys mewn lleoliad arall trwy gysylltiad fideo.

Rhestr Ieithoedd

Gweler y rhestr lawn o ieithoedd a ddarperir gan thebigword a'r codau a rhifau mae arnoch eu hangen i gyrchu'r cymorth sydd ar gael.

Rhestr Ieithoedd Ieithoedd ar gyfer cyfieithu ar y pryd (IMS) Ieithoedd ar gyfer Cyfieithu (TMS)
Acholi Acholi Acholi
Afar Afar Afar (Ethiopia)
Affganeg (Dari) Dari (Persiaidd Affganaidd) Dari (Affganistan)
Affricaneg Affricaneg Affricaneg (De Affrica)
Akan Akan Akan (Ghana)
Albaneg Albaneg Albaneg (Albania)
Albaneg (Cosofo) Albaneg GWNEUD CAIS Â LLAW
Alcholi Acholi Acholi
Algereg Arabeg (Modern Safonol) Gogledd Affricanaidd Arabeg (Algeria)
Iaith Arwyddion America Iaith Arwyddion America  
Amhareg Amhareg Amhareg (Ethiopia)
Amoy Amoy  
Arabeg Arabeg (Modern Safonol) Y Dwyrain Canol Arabeg (Modern Safonol - Y Dwyrain Canol
Arabeg (Clasurol) Arabeg (Clasurol) Arabeg (Clasurol)
Arabeg (Clasurol/Gogledd Affricanaidd) Arabeg (Modern Safonol) Gogledd Affricanaidd DDIM AR GAEL - CYFUNIAD O ARABEG
Arabeg (Yr Aifft) Arabeg (Modern Safonol) Y Dwyrain Canol Arabeg (Modern Safonol - Y Dwyrain Canol
Arabeg (Libaneg) Arabeg (Modern Safonol) Y Dwyrain Canol Arabeg (Modern Safonol - Y Dwyrain Canol
Arabeg (Modern Safonol) Arabeg (Modern Safonol) Y Dwyrain Canol Arabeg (Modern Safonol - Y Dwyrain Canol
Arabeg (Moroco) Arabeg (Modern Safonol) Gogledd Affricanaidd Arabeg (Moroco)
Arabeg (Gogledd Affricanaidd) Arabeg (Modern Safonol) Gogledd Affricanaidd Arabeg (Modern Safonol - Gogledd Affricanaidd)
Arabeg (Sawdi-Arabia) Arabeg (Modern Safonol) Y Dwyrain Canol Arabeg (Modern Safonol - Y Dwyrain Canol
Arabeg (Syriaidd) Arabeg (Modern Safonol) Y Dwyrain Canol Arabeg (Modern Safonol - Y Dwyrain Canol)
Arabeg (Yemen) Arabeg (Modern Safonol) Y Dwyrain Canol Arabeg (Modern Safonol - Y Dwyrain Canol)
Armeneg Armeneg Armeneg (Armenia)
Asante Ashanti / Asante  
Ashanti Ashanti / Asante  
Asyrieg Asyrieg / Syrieg  
Azerbaijani Azerbaijani / Azeri  
Azerbaijani (Gogledd) Azerbaijani / Azeri Azerbaijani (Lladin, Azerbaijan)
Azerbaijani (Deheuol) Azerbaijani / Azeri Azerbaijani (Lladin, Azerbaijan)
Azeri Azerbaijani / Azeri Azerbaijani (Lladin, Azerbaijan)
Bahasa Indonesia Indoneseg (Bahasa Indonesia) Indoneseg (Indonesia)
Bahasa Indoneseg Indoneseg (Bahasa Indonesia) Indoneseg (Indonesia)
Bahasa Maleiseg Maleiseg (Bahasa Maleisia) Maleieg (Maleisia)
Balochi - Deheuol Balochi GWNEUD CAIS Â LLAW
Balochi - Gorllewinol Balochi GWNEUD CAIS Â LLAW
Bamanankan Bamanankan GWNEUD CAIS Â LLAW
Bambareg Bambareg  
Bangla Bengaleg / Bangla Bangla (Bangladesh)
Bantw Bantw  
Barawe Barawe  
Basgeg Basgeg  
Belarwseg Belarwseg Belarwseg (Belarws)
Belarwseg Belarwseg Belarwseg (Belarws)
Bengaleg Bengaleg / Bangla Bangla (Bangladesh)
Benine Ffrangeg (Affricanaidd)  
Berbereg Berbereg / Tamazight  
Bilen Bilen GWNEUD CAIS Â LLAW
Bosneg Bosneg Bosneg (Lladin, Bosnia a Herzegovina)
Bravaneg Bravaneg GWNEUD CAIS Â LLAW
Arwyddion Prydain Iaith Arwyddion Prydain  
Iaith Arwyddion Prydain Iaith Arwyddion Prydain  
Bwlgareg Bwlgareg Bwlgareg (Bwlgaria)
Byrmaneg Byrmaneg Byrmaneg (Myanmar)
Cambodeg Cambodeg / Chmereg  
Cantoneg Cantoneg DDIM AR GAEL - AMRYWIADAU YSGRIFENEDIG AR TSIEINËEG AR GAEL
Castellano Sbaeneg (Sbaen)  
Catalaneg Catalaneg Catalaneg (Catalanaidd)
Cebuano Cebuano Pilipinas
Caldëeg - Neo Arameiadd Caldëeg- Neo Arameiadd GWNEUD CAIS Â LLAW
Chechen Chechen  
Tsieinëeg Mandarin DDIM AR GAEL - AMRYWIADAU YSGRIFENEDIG AR TSIEINËEG AR GAEL
Creoliaith AMH  
Creoliaith - Seisnig Creoliaith (Jamaica) (Seisnig)  
Creoliaith - Ffrengig Creoliaith (Haiti) (Ffrengig)  
Creoliaith - Portiwgaleg Creoliaith (Cape Verde, Guinea-Bissau) (Portiwgaleg) GWNEUD CAIS Â LLAW
Creoliaith ( Haitïaidd) Creoliaith (Haiti) (Ffrengig) GWNEUD CAIS Â LLAW
Creoliaith (Mawrisaidd) Creoliaith (Mawrisiws) (Ffrengig) GWNEUD CAIS Â LLAW
Croateg Croateg Croateg (Croatia)
Cypriot Cypriot-Groegaidd  
Cypriot-Groegaidd Cypriot-Groegaidd  
Cypriot-Tyrcaidd Cypriot-Tyrcaidd  
Tsieceg Tsieceg Tsieceg (Gweriniaeth Tsiec)
Daju Daju GWNEUD CAIS Â LLAW
Daneg Daneg Daneg (Denmarc)
Dari Dari (Persiaidd Affganaidd) Dari (Affganistan)
Dari (Affganaidd) Dari (Persiaidd Affganaidd) Dari (Affganistan)
Dari (Iranaidd) Dari (Iranaidd) GWNEUD CAIS Â LLAW
Dholuo Dholuo GWNEUD CAIS Â LLAW
Iseldireg Iseldireg Iseldireg (Yr Iseldiroedd)
Iseldireg (Gwlad Belg) Iseldireg Iseldireg (Gwlad Belg)
Dzongkha Dzongkha GWNEUD CAIS Â LLAW
Edo Edo  
Saesneg Saesneg Saesneg (Y Deyrnas Unedig)
Saesneg (AWS) Saesneg Saesneg (Awstralia)
Saesneg (Bratiaith) Saesneg (Bratiaith) GWNEUD CAIS Â LLAW
Saesneg (UD) Saesneg Saesneg (Unol Daleithiau)
Estoneg Estoneg Estonieg (Estonia)
Ewe Ewe Ewe (Nigeria)
Éwé Ewe Ewe (Nigeria)
Farsi Farsi (Persaidd) Perseg (Iran)
Farsi (Affganaidd) Farsi (Affganaidd)  
Farsi (Persaidd) Farsi (Persaidd) Perseg (Iran)
Ffilipineg Tagalog / Ffilipineg Pilipinas
Ffinneg Ffinneg Ffinneg (Y Ffindir)
Fflemeg Fflemeg (Iseldireg Gwlad Belg) Iseldireg (Gwlad Belg)
Ffrangeg Ffrangeg (Ewropeaidd) Ffrangeg (Ffrainc)
Ffrangeg (Algeria) Ffrangeg (Affricanaidd) GWNEUD CAIS Â LLAW
Ffrangeg (Algeraidd) Ffrangeg (Affricanaidd) GWNEUD CAIS Â LLAW
Ffrangeg (Gwlad Belg) Ffrangeg (Ewropeaidd) Ffrangeg (Gwlad Belg)
Ffrangeg (Canada) Ffrangeg (Canadaidd) Ffrangeg (Canada)
Ffrangeg (Congoleg) Ffrangeg (Affricanaidd) GWNEUD CAIS Â LLAW
Ffrangeg (Congoleg) Ffrangeg (Affricanaidd) GWNEUD CAIS Â LLAW
Ffrangeg (Swisaidd) Ffrangeg (Ewropeaidd) Ffrangeg ( Y Swistir)
Fukienese Fukienese GWNEUD CAIS Â LLAW
Fula Fula Fula (Niger)
Fulah Fula Fula (Niger)
Ffwlani Ffwlani  
Fuzhou Fuzhou GWNEUD CAIS Â LLAW
Ga Ga GWNEUD CAIS Â LLAW
Galiseg Galiseg Galiseg (Galisaidd)
Georgeg Georgeg Georgeg (Georgia)
Almaeneg Almaeneg Almaeneg (Yr Almaen)
Almaeneg (Awstriaidd) Almaeneg Almaeneg (Awstria)
Almaeneg (Swisaidd) Almaeneg Almaeneg (Y Swistir)
Ghanian Ga  
Gikuyu Kikuyu / Gikuyu Kikuyu (Cenia)
Gorani Gorani (Gurani) GWNEUD CAIS Â LLAW
Groeg Groeg Groeg (Gwlad Groeg)
Gwjarati Gwjarati Gwjarati (India)
Gwjerati Gwjarati Gwjarati (India)
Gusii Gusii Gusii (Cenia)
Creoliaith Haitïaidd Creoliaith (Haiti) (Ffrengig) GWNEUD CAIS Â LLAW
Hakka Hakka GWNEUD CAIS Â LLAW
Hawsa Hawsa Hawsa (Lladin, Nigeria)
Hebraeg Hebraeg Hebraeg (Israel)
Hindi Hindi Hindi (India)
Hindko Pwnjabeg GWNEUD CAIS Â LLAW
Hindwstani Hindi neu Wrdw GWNEUD CAIS Â LLAW
Hwngareg Hwngareg Hwngareg (Hwngari)
Ibo Igbo Igbo (Nigeria)
Igbo Igbo Igbo (Nigeria)
Ilocano Ilocano Ilokano (Pilipinas)
Indoneseg Indoneseg (Bahasa Indonesia) Indoneseg (Indonesia)
Gaeleg Iwerddon Gaeleg Iwerddon  
Eidaleg Eidaleg Eidaleg (Yr Eidal)
Siapaneg Siapaneg Siapaneg (Siapan)
Jafaneg Jafaneg Jafaneg (Indonesia)
Jula Jula GWNEUD CAIS Â LLAW
Kachchi Kachchi / Kutchi  
Cashmireg Cashmireg GWNEUD CAIS Â LLAW
Kazak Kazakh Kazakh (Kazakhstan)
Kazakh Kazakh Kazakh (Kazakhstan)
Chmereg Cambodeg / Chmereg  
Kibajuni Kibajuni GWNEUD CAIS Â LLAW
Kikongo Kikongo Kikongo (Angola)
Kikuyu Kikuyu / Gikuyu Kikuyu (Cenia)
Kinyamulenge Kinyamulenge GWNEUD CAIS Â LLAW
Kinyarwanda Kinyarwanda / Rwandeg Kinyarwanda (Rwanda)
Kirundi Kirundi Rundi (Burundi)
Kiswahili Swahili Kiswahili (Cenia)
Konkani Konkani  
Corëeg Corëeg Corëeg (Corea)
Krio Krio GWNEUD CAIS Â LLAW
Cwrdeg Cwrdeg (Sorani) Cwrdeg (Sorani)
Cwrdeg (Bahdini) Cwrdeg (Bahdini / Kurmanji) Cwrdeg (Kurmanji/Bahdini)
Cwrdeg Kurmanji) Cwrdeg (Bahdini / Kurmanji) Cwrdeg (Kurmanji/Bahdini)
Cwrdeg (Kurmanji/Bahdini) Cwrdeg (Bahdini / Kurmanji) Cwrdeg (Kurmanji/Bahdini)
Cwrdeg (Sorani) Cwrdeg (Sorani) Cwrdeg (Sorani)
Cwrdeg (Bahdini) Cwrdeg (Bahdini / Kurmanji) Cwrdeg (Kurmanji/Bahdini)
Kutchi Kachchi / Kutchi  
Kyrghiz Kyrghiz Kyrgyz (Kyrgyzstan)
Lak Lak GWNEUD CAIS Â LLAW
Laoseg Laoseg / Laoseg Laoseg (Laoseg P.D.R.)
Lladin Lladin  
Latifeg Latifeg Latifeg (Latfia)
Leta Kikongo  
Lingala Lingala Lingala (Congo)
Lithwaneg Lithwaneg Lithwaneg (Lithwania)
Luganda Luganda GWNEUD CAIS Â LLAW
Lugandan Luganda GWNEUD CAIS Â LLAW
Macedoneg Macedoneg Macedoneg (Gweriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia Gynt)
Gorani Macedonaidd Gorani (Gurani) GWNEUD CAIS Â LLAW
Makaton Makaton  
Maleieg Maleiseg (Bahasa Maleisia) Maleieg (Maleisia)
Malaialam Malaialam Malaialam (India)
Malinke Maninka / Malinke GWNEUD CAIS Â LLAW
Malteg Malteg  
Mandarin Mandarin DDIM AR GAEL - AMRYWIADAU YSGRIFENEDIG AR TSIEINËEG AR GAEL
Mandingo Mandinka / Mandingo  
Mandinka Mandinka / Mandingo Mandinka (Mali)
Maninka Maninka / Malinke GWNEUD CAIS Â LLAW
Marati Marati Marati (India)
Minangkabau Minangkabau  
Mirpuri Mirpuri Mirpuri
Moldofeg Rwmaneg GWNEUD CAIS Â LLAW
Mongoleg Mongoleg Mongoleg (Cyrilg, Mongolia)
Montenegro Montenegroeg  
Moore Mwreg / Mossi  
Moroceg Arabeg (Modern Safonol) Gogledd Affricanaidd Arabeg (Moroco)
Moroceg Arabeg (Modern Safonol) Gogledd Affricanaidd Arabeg (Moroco)
Ndebele - Gogleddol Ndebele Ndebele'r Gogledd (Simbabwe)
Ndebele - Deheuol Ndebele Ndebele'r De (De Affrica)
Ndebele (De Affrica) Ndebele Ndebele'r De (De Affrica)
Nepaleg Nepaleg Nepaleg (Nepal)
Nepaleg Nepaleg Nepaleg (Nepal)
Norwyeg Norwyeg "Norwyeg (Bokmål),
Norwyeg (Nynorsk)
Nzima Nzema / Nzima  
Oromo Oromo Oromo (Ethiopia)
Oromo (Canolog) Oromo (Canolog) Oromo (Ethiopia)
Pahari Pahari GWNEUD CAIS Â LLAW
Pahari - Kullu Pahari GWNEUD CAIS Â LLAW
Pahari - Mashu Pahari GWNEUD CAIS Â LLAW
Pahari-potwari Pahari GWNEUD CAIS Â LLAW
Pangasinan Pangasinan GWNEUD CAIS Â LLAW
Papiamento Papiamento  
Pashto Pashto Pashto (Affganistan)
Pashto (Affganistan) Pashto Pashto (Affganistan)
Pashto (Affganaidd) Pashto Pashto (Affganistan)
Pashto (Affganistan) Pashto Pashto (Affganistan)
Pashto (Pacistan) Pashto GWNEUD CAIS Â LLAW
Pashto, (Affganistan) Pashto Pashto (Affganistan)
Pashto, (Pacistan) Pashto GWNEUD CAIS Â LLAW
Bratiaith (Jamaica) Bratiaith (Jamaica)  
Perseg Farsi (Persaidd) Perseg (Iran)
Bratiaith [Pidgin] Saesneg (Bratiaith) Saesneg (Bratiaith)
Pokomchi Pokomchi  
Pwyleg Pwyleg Pwyleg (Gwlad Pwyl)
Portiwgaleg Portiwgaleg (Ewropeaidd) Portiwgaleg (Portiwgal)
Portiwgaleg (Brasil) Portiwgaleg (Brasil) Portiwgaleg (Brasil)
Portiwgaleg (Creoliaith) Creoliaith (Cape Verde, Guinea-Bissau) (Portiwgaleg) GWNEUD CAIS Â LLAW
Potwari Potwari GWNEUD CAIS Â LLAW
Pulaar Fula  
Pwnjabeg Pwnjabeg Pwnjabeg, Gorllewinol (Pacistan),
Pwnjabeg (India)
Pwnjabeg, Dwyreiniol (India) Pwnjabeg Pwnjabeg (India)
Pwnjabeg, Gorllewinol (Pacistan) Pwnjabeg Pwnjabeg, Gorllewinol (Pacistan)
Cetshwa Cetshwa  
Roma Romani GWNEUD CAIS Â LLAW
Rwmaneg Rwmaneg Rwmaneg (Rwmania)
Romani Romani Romani
Runyankole Runyankole GWNEUD CAIS Â LLAW
Rwseg Rwseg Rwseg (Rwsia)
Rwandeg Kinyarwanda / Rwandeg Kinyarwanda (Rwanda)
Sansgrit Sansgrit Sansgrit (India)
Saraiki Pwnjabeg  
Sardeg (Campidanese) Eidaleg GWNEUD CAIS Â LLAW
Serbeg Serbeg Serbeg (Cyrilig, Serbia),
Serbieg (Lladin, Serbia)
Serbo-Croateg Serbeg  
Shona Shona Shona (Simbabwe)
Sindhi Sindhi Sindhi (Pacistan)
Sinhala Sinhala / Sinhala Sinhala (Sri Lanca)
Sinhala Sinhala / Sinhala Sinhala (Sri Lanca)
Slofac Slofac Slofac (Slofacia)
Slofeneg Slofeneg / Slofeneg Slofeneg (Slofenia)
Slofeneg Slofeneg / Slofeneg Slofeneg (Slofenia)
Somalieg Somalieg Somalieg (Somalia)
Soninke Soninke  
Soso Soso / Susu GWNEUD CAIS Â LLAW
Sbaeneg Sbaeneg (Sbaen) Sbaeneg (Sbaen)
Sbaeneg (Castileg) Sbaeneg (Sbaen)  
Sbaeneg (Chile) Sbaeneg (Lladin Americanaidd) Sbaeneg (Chile)
Sbaeneg Colombia) Sbaeneg (Lladin Americanaidd) Sbaeneg (Colombia)
Sbaeneg (Rhyngwladol) Sbaeneg (Lladin Americanaidd)  
Sbaeneg (Lladin Americanaidd) Sbaeneg (Lladin Americanaidd) Sbaeneg (Yr Ariannin),
Sbaeneg (Gweriniaeth Bolifaraidd Venezuela),
Sbaeneg Chile),
Sbaeneg Colombia),
Sbaeneg (Mecsico),
Sbaeneg (Panama),
Sbaeneg (Perw),
Sbaeneg (Puerto Rico)
Sbaeneg (Perw) Sbaeneg (Lladin Americanaidd) Sbaeneg (Perw)
Sbaeneg (De America) Sbaeneg (Lladin Americanaidd) Sbaeneg (Yr Ariannin)
Sbaeneg (Gweriniaeth Bolifaraidd Venezuela),
Sbaeneg Chile),
Sbaeneg Colombia),
Sbaeneg (Mecsico),
Sbaeneg (Panama),
Sbaeneg (Perw),
Sbaeneg (Puerto Rico)
Sbaeneg America Ladin Sbaeneg (Lladin Americanaidd) Sbaeneg (Yr Ariannin)
Sbaeneg (Gweriniaeth Bolifaraidd Venezuela),
Sbaeneg (Chile),
Sbaeneg (Colombia),
Sbaeneg (Mecsico),
Sbaeneg (Panama),
Sbaeneg (Perw),
Sbaeneg (Puerto Rico),
Adroddiad Llafar-i-Destun Adroddiad Llafar-i-Destun  
Swdaneg Swdaneg  
Susu Soso / Susu GWNEUD CAIS Â LLAW
Swahili Swahili Kiswahili (Cenia)
Swahili (Arfordirol) Swahili GWNEUD CAIS Â LLAW
Swahili (Congo) Swahili GWNEUD CAIS Â LLAW
Swedeg Swedeg Swedeg (Sweden)
Sylheti Bengaleg / Bangla (Sylheti) GWNEUD CAIS Â LLAW
Syrieg Asyrieg / Syrieg  
Tagalog Tagalog / Ffilipineg Ffilipineg (Pilipinas)
Taiwaneg Taiwaneg Hokkien GWNEUD CAIS Â LLAW
Tajik Tajik Tajik (Cyrilig,Tajikistan)
Tajiki Tajik Tajik (Cyrilig,Tajikistan)
Tamazight Berbereg / Tamazight  
Tamil Tamil Tamil (India)
Telwgw Telwgw Telwgw (India)
Tetun Tetun  
Thai Thai Thai (Gwlad y Thai)
Tibeteg Tibeteg  
Tigre Tigre GWNEUD CAIS Â LLAW
Tigrinia Tigrinia Tigrinia (Eritrea)
Tswana Tswana Setswana (De Affrica)
Tyrceg Tyrceg Tyrceg (Twrci)
Tyrcmeneg Tyrcmeneg Tyrcmeneg (Tyrcmenistan)
Twi Twi Twi (Ghana)
Wcreineg Wcreineg Wcreineg (Wcráin)
Wrdw Wrdw Wrdw (India)
Urhobo Urhobo  
Uyghur Uyghur  
Uzbek Uzbek Uzbek (Lladin, Uzbekistan)
Uzbek (Gogleddol) Uzbek Uzbek (Lladin, Uzbekistan)
Venda Venda  
Fietnameg Fietnameg Fietnameg (Fietnam)
Cymraeg Cymraeg Cymraeg (Y Deyrnas Unedig)
Cymraeg (i'w darparu y tu allan i Gymru) Cymraeg Cymraeg (Y Deyrnas Unedig)
Woloff Woloff Woloff (Senegal)
Xhosa Xhosa isiXhosa (De Affrica)
Iddew-Almaeneg Iddew-Almaeneg  
Iorwba Iorwba Iorwba (Nigeria)
Zaghawa Zaghawa  
Zarma-Songhay Zarma-Songhay  
Zwlw Zwlw isiZwlw (De Affrica)

Cod Ymddygiad

Mae thebigword yn ymfalchïo mewn lefel eithriadol o wasanaeth i gwsmeriaid a bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gan ein defnyddwyr ac ieithyddion

Yn y Cod Ymddygiad hwn, mae Corff Comisiynu'n cyfeirio at sefydliad sy'n derbyn gwasanaethau gan Weithwyr Proffesiynol Iaith o dan gontractau gwasanaethau iaith Y Weinyddiaerth Gyfiawnder.

Cymhwysedd Proffesiynol

Rhaid i bob Gweithiwr Proffesiynol Iaith:

Gydweithredu gyda phroses Sicrwydd Ansawdd yr Awdurdod drwy'r amser trwy gymryd rhan yn yr Asesiad Cwsmer Cudd, yr Asesiad Hapwiriad a phrosesau Asesiad Personol.

Dim ond derbyn archebion/apwyntiadau ar gyfer ieithoedd lle gallant arddangos eu bod wedi cyrraedd y lefel o gymhwysedd sydd ei hangen a gwrthod unrhyw waith sydd y tu hwnt i lefel eu cymhwysedd, naill ai o ran iaith neu oherwydd diffyg gwybodaeth arbenigol.

Bod yn rhugl yn, ac arddangos dealltwriaeth gynhwysfawr o, ffurf ysgrifenedig a llafar y ddwy iaith; gan gynnwys tafodieithoedd rhanbarthol, ymadroddion llafar, mynegiadau idomatig a thermau technegol.

Cynnal sgiliau iaith a sgiliau ieithyddol proffesiynol perthnasol eraill er mwyn cyflawni gwasanaethau hyd at y safon ofynnol.

Bod yn gyfarwydd ag unrhyw gefndiroedd diwylliannol sy'n berthnasol i'r apwyntiad.

Deall gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol y system gyfiawnder fel sy'n ofynnol ar gyfer y Corff Comisiynu perthnasol.

Peidio â dirprwyo unrhyw waith i drydydd partïon na derbyn unrhyw waith sydd wedi'i ddirprwyo.

Mae pwyntiau 1.8 i 1.15 isod dim ond yn gymwys i Weithwyr Proffesiynol Iaith pan fydd angen iddynt fynychu lleoliad i gyflenwi gwasanaethau iaith fel y'i pennir gan Gorff Comisiynu.

Bod yn gallu dilysu eu hunaniaeth ar gais gan y Corff Comisiynu ar unrhyw adeg yn ystod eu Harcheb, trwy ddefnyddio bathodyn hunaniaeth â llun sydd yn ddilys a chyfredol, yr hyn mae'n rhaid iddo fod gyda hwy pan ydynt yn mynychu apwyntiad.

Sicrhau eu bod yn cyrraedd y lleoliad yn barod i gychwyn cyfieithu ar y pryd ar yr amser y gofynnwyd amdano trwy hysbysu aelod o staff eu bod wedi cyrraedd fel y gellir cofnodi'r amser yn gywir.

Sicrhau eu bod yn cyrraedd y lleoliad gyda'r ddalen amser swyddogol.

Sicrhau bod pob dalen amser yn cael ei chymeradwyo gan aelod priodol o'r Corff Comisiynu cyn gadael y lleoliad.

Aros am holl gyfnod yr apwyntiad tan yn cael eich rhyddhau gan y Corff Comisiynu.

Gwisgo'n briodol ar gyfer pob apwyntiad a wneir. Mae'n bosibl y caiff y rhai hynny y gellid ystyried bod eu hymddangosiad yn amhriodol eu tynnu o'r apwyntiad.

Tyngu llw neu roi cadarnhad cyn i'r apwyntiad gychwyn os cewch eich cyfarwyddo i wneud felly.

Yn achos Gweithwyr Proffesiynol Iaith sy'n darparu gwasanaethau dehongli, rhaid cydymffurfio â'r gofynion penodol ar gyfer dehongli wyneb yn wyneb ac o bell fel y'i cyflwynir yn adran 3 isod.

Yn achos Gweithwyr Proffesiynol Iaith sy'n darparu gwasanaethau cyfieithu a thrawsgrifio, rhaid cydymffurfio â'r gofynion penodol ar gyfer y gwasanaethau a gyflwynir yn adran 2 isod.

Gwasanaethau Cyfieithu a Thrawsgrifio – Dehongli Ysgrifenedig

Hefyd mae'n rhaid i Weithwyr Proffesiynol Iaith:

Cyfieithu pob dogfen a thrawsgrifio recordiadau, gan gymryd camau rhesymol i sicrhau cyfathrebu effeithiol a dealltwriaeth glir rhwng y partïon.

Hysbysu'r Corff Comisiynu lle profir anawsterau ynghylch tafodiaith, termau technegol neu ddiffyg gwybodaeth gefndirol berthnasol a allai amharu ar eu gallu i gynnal y gwaith. Os na ellir datrys y problemau hyn er boddhad y Corff Comisiynu bydd y Gweithiwr Proffesiynol Iaith yn tynnu'n ôl o'r apwyntiad.

Cyfieithu ar y pryd Wyneb yn Wyneb ac O Bell – Dehongli Ar Lafar

Hefyd mae'n rhaid i Weithwyr Proffesiynol Iaith:

Cyfieithu ar y pryd yn ddiduedd rhwng y partïon amrywiol, gan gymryd camau rhesymol i sicrhau cyfathrebu effeithiol a dealltwriaeth glir.

Cyfleu union ystyr yr hyn a ddywedwyd gan bob parti, heb wneud newidiadau na hepgoriadau i'r cynnwys; gan ymyrryd i atal camddealltwriaethau posibl yn unig. O dan amgylchiadau eithriadol gellir rhoi crynodeb (yr hyn mae'n rhaid iddo beidio â gwyrdroi'r hyn a ddywedwyd) os yw'r Corff Comisiynu'n gofyn amdano.

Hysbysu'r Corff Comisiynu lle profir anawsterau ynghylch tafodiaith, termau technegol neu ddiffyg gwybodaeth gefndirol berthnasol a allai amharu ar eu gallu i gynnal y gwaith. Os na ellir datrys y problemau hyn er boddhad y Corff Comisiynu bydd y Gweithiwr Proffesiynol Iaith yn tynnu'n ôl o'r apwyntiad.

Peidio â rhoi cyngor cyfreithiol na chyngor arall na mynegi barn i unrhyw un o'r partïon sy'n mynd heibio i'w rôl a dyletswyddau fel Gweithwyr Proffesiynol Iaith.

Gofyn i'r partïon perthnasol ddarparu amgylchedd sy'n addas i gyflenwi gwasanaeth cyfieithu ar y pryd; megis sicrhau y gall yr holl bartïon gael eu clywed yn glir ac ati. Mae'n rhaid i'r Gweithiwr Proffesiynol Iaith hysbysu'r partïon perthnasol os ymddengys nad yw'r amgylchedd yn addas i'r diben.

Moeseg

Rhaid i bob Gweithiwr Proffesiynol Iaith:

Gweithredu ag uniondeb drwy'r amser, cynnal safonau uchel ac ymddwyn mewn modd moesegol a phroffesiynol.

Cynnal apwyntiadau mewn modd diduedd a datgelu unrhyw fuddiant personol, megis un sy'n gysylltiedig ag arian neu fusnes, er mwyn i'r Corff Comisiynu allu asesu a yw hyn yn golygu gwrthdrawiad buddiannau posibl cyn gynted ag eu bod yn dod yn ymwybodol ohono. Os yw'r Corff Comisiynu'n ystyried bod y gwrthdrawiad yn annerbyniol gofynnir i'r Gweithiwr Proffesiynol Iaith dynnu'n ôl o'r apwyntiad.

Peidio â derbyn unrhyw rodd neu wobr y gellid ystyried ei fod yn gymhelliad i weithredu yn erbyn eu rhwymedigaethau proffesiynol.

Hysbysu'r Corff Comisiynu ar unwaith o unrhyw berthynas flaenorol ag unrhyw barti i'r hyn sy'n digwydd mewn unrhyw apwyntiad arbennig.

Hysbysu'r Corff Comisiynu ar unwaith o unrhyw gysylltiad blaenorol ag apwyntiad arbennig.

Datgelu i'r Corff Comisiynu os ydynt wedi cael unrhyw gysylltiad â'r un cleient mewn apwyntiadau blaenorol.

Datgelu i'r Corff Comisiynu unrhyw gofnod troseddol neu wybodaeth arall a allai olygu eu bod yn anaddas ar gyfer apwyntiad arbennig. Yn ôl disgresiwn y Corff Comisiynu, efallai bydd unigolion â chofnod troseddol yn cael eu cau allan rhag derbyn apwyntiadau arbennig.

Peidio â gwahaniaethu rhwng partïon (er eu mantais neu eu hanfantais) naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol a gweithredu'n ddiduedd drwy'r amser a pheidio â gweithredu mewn unrhyw ffordd a allai achosi rhagfarn neu ffafriaeth ar sail crefydd neu gred, hil, gwleidydddiaeth, rhyw, ailbennu rhywedd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol neu anabledd heblaw am fel mae'n rhaid ei wneud er mwyn cyfieithu, dehongli neu drosglwyddo ystyr mewn ffordd arall yn ffyddlon.

Ymateb o fewn yr amserlen ofynnol i unrhyw honiadau o gamymddwyn neu wyro o God Ymddygiad yr Awdurdod.

Cyfrinachedd

Rhaid i bob Gweithiwr Proffesiynol Iaith:

Trin yr holl ddeunydd a ddarperir yn hynt yr apwyntiad yn gyfrinachol ac oni bai fod datgelu'n ofynnol o dan y gyfraith, sicrhau na chyfathrebir unrhyw wybodaeth i unrhyw drydydd parti heb ganiatâd pendant y Corff Comisiynu.

Sicrhau y defnyddir deunydd dim ond at y diben a awdurdodir gan y Corff Comisiynu.

Sicrhau y dychwelir yr holl ddeunydd i'r Corff Comisiynu pan ddaw'r apwyntiad i ben.

Cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth ynghylch diogelu data gan gynnwys Deddf Diogelu Data 1998.

Peidio â defnyddio unrhyw ran o'r wybodaeth a geir yn ystod hynt yr apwyntiad at unrhyw ddiben heblaw am yr un a awdurdodir.

Sicrhau diogelwch unrhyw ddogfen, recordiadau neu gyfryngau a ddarperir yn ystod hynt apwyntiad, gan sicrhau nad yw'n cael eu copïo a'u bod yn cael eu dychwelyd ar ddiwedd yr apwyntiad. Bwriedir dogfennau ar gyfer llygaid y Gweithiwr Proffesiynol Iaith a staff awdurdodedig yn unig, a rhaid iddynt beidio â chael eu gweld gan na'u rhannu gydag unrhyw un arall.