Hafan> Gwasanaethau Iaith
WordSynk yw llwyfan dehongli thebigword sy'n eich galluogi i'ch cysylltu'n syth ag ieithyddion arbenigol – gan eich galluogi i gael cymorth iaith ar unwaith ar y ffôn, drwy fideo neu archebu ieithydd ar gyfer aseiniad dehongli wyneb yn wyneb.
Roedd ein system WordSynk gyflym, syml a hynod arloesol yn eich galluogi i gyfathrebu mewn unrhyw iaith ar gyffwrdd botwm.
Roedd ein ieithyddion cymwysedig ar gael ddydd neu nos, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn – gan wneud WordSynk yn llwyfan un stop ar gyfer eich holl anghenion dehongli.
Gwbiwch eich ffeiliau i'w cyfieithu neu eu trawsgrifio drwy system WordSynk arloesol a greddfol thebigword 24/7/365.
Yn defnyddio WordSynk, gallwch uwchlwytho ffeiliau testun neu sain ar unwaith i'w cyfieithu a'u trawsgrifio ac yna eu tracio mewn amser real. Mae WordSynk hefyd yn cynnwys cof cyfieithu unigryw sy'n cynnwys terminoleg allweddol sy'n benodol i'ch adran neu wasanaeth o dan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Gallwch hefyd ddefnyddio WordSynk i adolygu'r ffeil a gyfieithwyd cyn i'r ddogfen derfynol, hynod gywir, gael ei chyflwyno'n ôl i chi.
Mae systemau arloesol gwasanaethau iaith a rheoli thebigword’s yn syml i'w defnyddio ond gallwch gyrchu amrediad o ganllawiau fideos hyfforddi byr a chyflwyniadau defnyddiol ‘How To’ yn yr adran hon os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth.
Gellir lawrlwytho a chadw'r canllawiau hyn i'w defnyddio nes ymlaen os oes angen.
Amrediad o ganllawiau syml a hygyrch i'ch helpu i ddefnyddio'r gwasanaethau a systemau iaith yn effeithiol.
Cyfres o ffilmiau byr i'ch helpu i ddeall yn gyflym yr hyn sydd ar gael a sut i gyrchu gwasanaethau allweddol.
Nifer o gyflwyniadau y gellir eu defnyddio yn y gweithle neu'n unigol i helpu defnyddwyr allweddol i ddefnyddio'r amrediad o wasanaethau iaith.